Jump to content

Irisleabhar na Gaedhilge/Imleabhar 1/Uimhir 1/Welsh Article on The Gaelic Union Report

From Wikisource
227572Irisleabhar na Gaedhilge, Imleabhar I, Uimh. 1 — Welsh Article on The Gaelic Union ReportWilliam Spurrell
[ 11 ]

YR HAUL: CAERFYRDDIN.


Adolygiad y Wasg.

The Gaelic Union Report, &c. Dulyn: M. H. Gill, a'i Fab.

Bydd yn dda gan rai o'n darllenwyr ag sydd wedi bod hyd yn hyn yn anwybodus o'r pwnc fod cymdeithas mewn gweithrediad yn yr Iwerddon er coleddu gwybodaeth o'r iaith Wyddelig a chyhoeddi llyfrau i'r perwyl. Megys y Gymraeg, y mae'r Wyddelaeg wedi bod yn nod gwatwar i anwybodusion Seisonig, ac ofnwn i anwybodusion Cymreig hefyd. Nid gwaith caled yw dirmygu yr hyn nad yw'r dirmygwr yn ei ddeall. Ond y mae ieithwyr dysgedig, yn neillduol ar y Cyfandir, yn prisio yn uchel y ddwy iaith hyn yng nghyd a'u chwaer ieithoedd, ac yn cael oddi wrthynt wybodaeth o egwyddorion nas gellir yn hawdd eu cyrhaedd heb eu cynnorthwy. Y mae hefyd luaws o hen ysgnifau tra gwerthfawr i'w cael yn iaith y chwaer ynys; ond y mae yn iaith dan un anfantais y mae'r Gymraeg yn rhydd oddi wrthi, sef orgraff dra thrwsgl a llythyrenau afluniaidd. Y mae rhai llenorion Gwyddelig yn glynu wrth yn hen ffurf o lythrenau gyda thaerni, gan anghofio mai nid yn iaith ysgrifenedig yw bob amser yn iaith lafaredig, ac mai'r orgraff oreu yw'r hon ag sydd yn dangos yn y modd cywiraf beth yw llafar y bobl ym mhob cyfnod. Y [ 12 ]mae orgraff sefydledig a digyfnewid yn cuddio hanes iaith; tra y dylai'r dull o osod mewn ysgrifen leferydd pobl newid i ateb eu lleferydd, ac felly fod gofrestr o'r cyfnewidiadau sydd yn cymmeryd lle ynddi o oes i oes: dyna beth fyddai orgraff hanesiol. Ac am orgraff darddiadol, fel ei gelwir, nid hawdd sefydlu ei hegwyddorion. Pe dylid cadw ffurf yr iaith o'r hon y cymmerwyd gair, dylid ysgrifenu llawer o ciriau yn gwahaniaethu yn fawr oddi wrth eu gilydd yn yr un dull ag yn yr iaith oddi wrth yr hon y cymmerwyd hwynt; megys esgob, bishop, évéque, y rhai a ddylent fod yn unffurf â'r gair Lladin episcopus, os nid â'r gair Groeg. Y gwir yw, mae gwaith ieithwyr yw olrhain tarddiad a hanes geiriau, a gwaith ysgrifenwyr cyffredin yw dangos i'r llygad mor eglur ag sydd ddichonadwy beth yw'r iaith sydd ar dafadau y llefarwyr. Camsyniad mawr y dydd yw edrych ar sillafu mewn modd direswm, megys y gwneir yn arbenig yn Seisoneg, fel peth sanctaidd o'r sanctciddiolof.